Sut i Ddefnyddio’r Adnodd Yma

Cafodd yr adnodd yma ei greu at ddefnydd athrawon sy’n cyflwyno ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd unrhyw gyfrwng yng Nghymru. Mae’r defnydd o odli, rhythm ac ailadrodd yn y tair iaith yn gyfrwng i ysgogi chwilfrydedd y dysgwyr am ieithoedd yn gyffredinol a chynyddu eu hymwybyddiaeth o’u hunaniaeth yn eu cymunedau eu hunain ac fel aelodau o gymuned fyd-eang.

Mae’n cyd-fynd â rhaglen hyfforddi sy’n cael ei ddarparu gan y British Council, ond gellir ei ddefnyddio yn annibynnol hefyd, heb unrhyw hyfforddiant blaenorol.

Mae’n cynnwys 33 o weithgareddau (22 o weithgareddau ‘Dechrau Arni’ ac 11 o ‘Brif Weithgareddau’) i’w defnyddio gyda’ch dosbarth. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o gemau drama syml i ganeuon â gwahanol rannau ac elfennau mewn tair iaith. Cafodd y caneuon eu creu’n arbennig ar gyfer Cerdd Iaith gan y Prifardd, Mererid Hopwood a’r cyfansoddwyr, Gareth Glyn a Tim Riley.

Rydyn ni wedi darparu popeth sydd ei angen arnoch i arwain eich disgyblion drwy weithgareddau’r adnodd. Mae cyfarwyddiadau llawn ar gyfer pob un o’r gweithgareddau, fideos i ddangos a dysgu’r gemau a’r caneuon, nodiant a geiriau’r caneuon, awgrymiadau am sut i ymestyn y gweithgareddau, awgrymiadau i gnoi cîl arnynt a mwy.

Cafodd yr adnodd ei greu gyda golwg ar gyfres o sesiynau awr o hyd, ond mae’n gwbl hyblyg hefyd. Gallwch ddefnyddio’r gweithgareddau i strwythuro gwersi sy’n ateb eich gofynion penodol chi a’ch dysgwyr. Rydyn ni wedi awgrymu pum cyd-destun neu ‘thema’ a allai fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio’r gweithgareddau addysgu a dysgu.

Mae croeso i chi strwythuro’r gwersi mewn ffyrdd gwahanol. Rydyn ni wedi awgrymu pum thema benodol y gallwch eu defnyddio wrth drefnu eich cynlluniau gwersi. Gellir cynnwys pob un o weithgareddau’r wefan dan adain un o’r pum thema yma. Neu os dymunwch, gallwch ddewis a dethol a chymysgu’r gweithgareddau i greu eich gwersi eich hunan i ateb gofynion penodol y dysgwyr yn eich dosbarth.

Pum thema’r adnodd yma yw:

Patagonia

Fi

Traeth

Natur

Amser a Lle

 

Tafodieithoedd Sbaeneg

Siaredir Sbaeneg mewn dros 20 o wledydd ledled y byd. Ceir nifer o amrywiadau ar yr iaith mewn gwahanol wledydd ac mae pob un ohonynt yn cael ei gydnabod a’i dderbyn yn swyddogol. Mae gweithgareddau’r adnodd yma’n defnyddio cymysgedd o Sbaeneg o Sbaen a’r Ariannin. Er bod rhai gwahaniaethau bach yma a thraw, fe fydd y dysgwyr yn gallu cyfathrebu a mynegi eu hunain wrth ddefnyddio’r iaith a gyflwynir yma.

 

Beth yw’r rhaglen hyfforddi a gynigir gan y British Council?

Ers 2016, mae British Council Cymru a’n partneriaid wedi cynnig hyfforddiant i athrawon fel rhan o’u Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Cyflwynir yr hyfforddiant yma gan bartneriaid y prosiect – sy’n cynnwys cerddorion, ieithyddion ac ymarferwyr drama – ar ffurf sesiynau dysgu creadigol ac ymarferol. Cynhelir y sesiynau hyfforddi ar ddiwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd (HMS).

Nod yr hyfforddiant yw helpu athrawon i ddeall sut yn union mae’r gweithgareddau’n gweithio, a sut i ddefnyddio’r adnodd yn hyderus a hwyliog yn y dosbarth.

Mae’r ymarferwyr a greodd yr adnodd hefyd ar gael i ymweld ag ysgolion i fodelu gwersi yn uniongyrchol.

Os hoffech fanteisio ar y rhaglen hyfforddi yma, cysylltwch â thîm British Council Cymru drwy ebost: TeamWales@britishcouncil.org

Neu, gallwch ysgrifennu atom yma:

Prosiect Cerdd Iaith, British Council Cymru, 1 Ffordd y Brenin, Caerdydd CF10 3AQ