Mae gweithgareddau ‘Dechrau Arni’ yn cyflwyno’r tair iaith i’r dysgwyr trwy gyflwyno geiriau ac ymadroddion syml. Maent hefyd yn helpu i gynhesu a pharatoi’r meddwl a’r corff; rydyn ni’n dysgu’n fwy effeithiol pan mae pob rhan o’r corff yn rhan o’r gweithgaredd.
Ceir esboniad o amcan pob gweithgaredd yn ogystal â chyfarwyddiadau llawn ar gyfer arwain eich dysgwyr drwyddo ar dudalen y gweithgaredd.
Cliciwch y botymau gwyrdd ar waelod pob tudalen i gael at weithgareddau bwrdd gwyn, cysylltiadau â’r cwricwlwm a geirfa ychwanegol lle bo angen.
Mae’r gweithgareddau yn yr adran yma’n fwy manwl ac estynedig. Nod y gweithgareddau yma yw helpu i gynyddu hyder y dysgwyr wrth siarad a gwrando ar ieithoedd.
Mae’r adran yma’n cynnwys naw o ganeuon gwreiddiol a gafodd eu cyfansoddi’n arbennig ar gyfer Cerdd Iaith - yn Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg. Ar bob tudalen mae disgrifiad byr o’r gweithgaredd ynghyd â ffeiliau sain, fideos, a geiriau a nodiant y caneuon i’ch helpu chi a’ch dysgwyr i gyd-ganu gyda’r cerddorion.
Rydyn ni hefyd wedi cynnwys geirfa ychwanegol lle bo angen.
Mae’r dolenni ar y dudalen yma’n mynd â chi i bum tudalen wahanol - un yr un ar gyfer pum thema Cerdd Iaith - lle gallwch ymestyn a datblygu geirfa eich dysgwyr yn ogystal â phrofi eu cynnydd.
Mae ffeil sain ar gyfer y geiriau a’r ymadroddion sydd ar dudalen flaen pob thema. Wrth glicio ar y gair neu’r ymadrodd fe welwch dair baner ar gyfer y tair iaith. Cliciwch ar y faner i glywed sut mae dweud y gair yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg.
Wrth lwytho’r tudalennau hyn fe welwch fod y geiriau wedi’u ‘cuddio’. Gallwch ‘ddangos’ neu ‘guddio’ unrhyw un (neu unrhyw nifer) o’r geiriau – sy’n rhoi cyfle i chi ‘brofi’ eich dysgwyr, neu gyfle i’r dosbarth adolygu.
Cafodd holl weithgareddau adnodd Cerdd Iaith eu llunio i gyd-fynd â’r themâu isod. Gallwch ddewis gweithio drwy weithgareddau un thema, ynghyd â’r gweithgareddau ymestyn, am dymor cyfan, neu gallwch ganolbwyntio ar un thema ym mhob gwers. Ar dudalen bob thema rydyn ni hefyd wedi cynnwys awgrymiadau am destunnau trafod a chwisiau.