Patagonia

Yn 1865, hwyliodd dros 150 o ddynion, menywod a phlant dewr o Gymru ar long y Mimosa o borthladd Lerpwl. Eu nod oedd sefydlu gwladfa newydd yn Nyffryn Camwy (Chubut) yn Ne’r Ariannin, 8,000 o filltiroedd i ffwrdd, ar draws Cefnfor yr Iwerydd.

Roedden nhw eisiau ffeindio cartref newydd mewn gwlad newydd lle gallent ddiogelu eu hiaith a’u diwylliant.

Yn ystod y 50 mlynedd nesaf, ymfudodd cannoedd o Gymry i Batagonia, gan sefydlu trefi a chymunedau Cymreig ffyniannus lle’r oedd y Gymraeg yn rhan amlwg o fywyd bob dydd. Ymhen amser, cyfeiriwyd at yr anheddiad yma fel, 'Y Wladfa'.

Erbyn heddiw, mae’r boblogaeth Gymreig-Archentaidd wedi'i chanoli yn Nyffryn Camwy (prif drefi’r ardal yma yw: Trelew, Y Gaiman a Dolavon) a Rhanbarth yr Andes (gan gynnwys trefi Trevelin ac Esquel). Mae tua 500,000 o bobl yn byw yn nhalaith Chubut; Trelew yw tref fwyaf Dyffryn Camwy gyda phoblogaeth o dros 120,000.  Er mai dim ond cyfran fechan o'r boblogaeth sydd o dras cwbl Gymreig mae gan lawer iawn o'r boblogaeth rhywfaint o waed Cymreig, ac mae ymdeimlad cryf o fod â gwreiddiau Cymreig yn parhau’n rhan o’r diwylliant yno.

Mae tair ysgol ddwyieithog Cymraeg-Sbaeneg wedi cael eu sefydlu ym Mhatagonia - yn Nhrelew, Y Gaiman a Threvelin.

Mae Eisteddfod y Wladfa yn cael ei chynnal bob mis Hydref ac Eisteddfod yr Ifanc bob mis Medi. Mae’r ddwy Eisteddfod yn dal i fynd o nerth i nerth. Hefyd, mae nifer o eisteddfodau llai’n cael eu cynnal yn Nyffryn Camwy, Porth Madryn a’r Andes.

Gweithgareddau ar gyfer thema ‘Patagonia’