Wau-Wau, Bow-Wow, Woof-Woof

Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.

Amcan:

Amcan y gweithgaredd yma yw dangos sut mae’r Almaeneg yn gwahaniaethu rhwng y goddrych a’r gwrthrych; yn yr achos yma: ‘ein’ ac ‘einen’.

Mae’r gweithgaredd yma hefyd yn tynnu sylw at y ffordd mae anifeiliaid yn defnyddio gwahanol eiriau wrth ‘siarad’ yn y gwahanol ieithoedd.

Mae hyn yn dangos sut y mae ein clustiau’n clywed seiniau’n wahanol – yn enwedig pan fyddwn yn ceisio dynwared ‘lleisiau’ anifeiliaid!

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Dechreuwch drwy wrando ar y gân. Yna edrychwch ar eiriau’r gân ym mhob iaith yn ei thro cyn gwrando ar y gân eto. Yna, cymal wrth gymal, gwrandewch ar sut i ynganu’r geiriau. Yna rhowch gynnig ar gyd-ganu gyda’r gerddoriaeth!

Gallwch ddewis sut yr ydych am weithio gyda’r gân; efallai y bydd yn well gennych rannu’r dosbarth i wahanol grwpiau gyda phob grŵp yn cymryd ei dro i ganu mewn iaith wahanol.

Geiriau

Ein Mann sah einen Hund
Ein Hund sah einen Mann
'Guten Tag!' Sagt der Mann
‘Wau-wau-wau’, Sagt der Hund
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof


Gwelodd dyn gi
Gwelodd ci ddyn
‘Sut mae?’, meddai’r dyn
‘Bow-wow’, meddai’r ci
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof

A man saw a dog
A dog saw a man
‘Hello’, said the man
‘Woof-woof!’, said the dog
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof

Ein Mann gab einem Hund einen Knochen
Ein Mann gab einem Hund einen Knochen
'Guten Tag!' Sagt der Mann
‘Wau-wau’, bellt der Hund
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof

Rhoddodd dyn asgwrn i gi
Rhoddodd dyn asgwrn i gi
‘Sut mae?’, meddai’r dyn
‘Bow-wow’, meddai’r ci
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof


A man gave a dog a bone
A man gave a dog a bone
‘Hello’, said the man
‘Woof-woof!’, said the dog
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof
Wau-wau, Bow-wow, Woof-woof!

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Lawrlwythiadau Geiriau