Schritt für Schritt

Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.

 

Amcan: 

Amcan y gân yma yw cyflwyno aelodau’r teulu a rhifau gan dynnu sylw at yr elfennau sy’n debyg rhwng yr ieithoedd a’r gwahaniaethau rhyngddynt.

Mae’n amlwg fod y geiriau ‘brawd’ a ‘brother’ a ‘bruder’ yn rhannu’r un gwreiddyn. Ond sylwn hefyd fod ‘brawd’ yn air unsill tra bod ‘brother’ a ‘bruder’ yn eiriau deusill. Mae gan y gair Saesneg a’r gair Almaeneg yr un rhythm, tra bod rhythm y gair Cymraeg yn wahanol.

Gallwch gael hwyl wrth gymharu seiniau’r geiriau ‘naw’, ‘neun’ a ‘nine’ sef geiriau’r tair iaith am y rhif 9 – gan nodi fod y gair Saesneg ‘nine’ (9) yn swnio’n debyg i’r gair Cymraeg ‘nain’ (mam-gu / grandmother) a’r gair ‘nein’ yn Almaeneg, sy’n golygu ‘na’!

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Dechreuwch drwy wrando ar y gân. Yna edrychwch ar eiriau’r gân ym mhob iaith yn ei thro cyn gwrando ar y gân eto. Yna, cymal wrth gymal, gwrandewch ar sut i ynganu’r geiriau. Yna rhowch gynnig ar gyd-ganu gyda’r gerddoriaeth!

Gallwch ddewis sut yr ydych am weithio gyda’r gân; efallai y bydd yn well gennych rannu’r dosbarth i wahanol grwpiau gyda phob grŵp yn cymryd ei dro i ganu mewn iaith wahanol

Geiriau

Mein Vater, my father, fy nhad

(Eins, zwei, drei!)

Meine Mutter, my mother, fy mam

Ich lerne, I’m learning, rwy’n dysgu

(Un, dau, tri!)

Schritt für schritt, step by step, cam wrth gam

(One, two, three!)

 

Mein Bruder, my brother, fy mrawd

(Eins, zwei, drei!)

Big and small, mawr a bach, groß und klein

Ich lerne, I’m learning rwy’n dysgu

(Un, dau, tri!)

Dysgu, Vorwärts, and onwards, ymlaen

(One, two, three)

Eins, zwei, drei, vier, fünf, sechs, sieben, acht, neun, zehn!

(acht, neun, zehn!)

One, two, three, four, five, and six and seven

Ich lerne, I’m learning, rwy’n dysgu

(Eight, nine, ten!)

Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech a saith

(Wyth, naw, deg!)

 

Meine Schwester, my sister, fy chwaer

(Vier und fünf!)

Mein Haus, and my house, a fy nhŷ

Ich lerne, I’m learning, rwy’n dysgu

(Pedwar, pump!)

Gefieder und feathers a phlu

(Four and five!)

Fy Nain, meine Oma, my Gran

(Sechs und sieben!)

Nine, neun, naw, nein, na, no, no

Ich lerne, I’m learning, rwy’n dysgu

(Chwech a saith)

So langsam, mor araf, so slow

(Six and seven!)

 

Eins, zwei, drei, vier, fünf, sechs, sieben, acht, neun, zehn!

(acht, neun, zehn!)

One, two, three, four, five, and six and seven

Ich lerne, I’m learning, rwy’n dysgu

(Eight, nine, ten!)

Un dau tri, pedwar pump, chwech a saith, wyth naw deg!

(Wyth, naw, deg!)

 

Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech a saith, wyth, naw, deg

(Wyth, naw, deg!)

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Lawrlwythiadau Geiriau Geiriau Niferoedd