Defnyddiwch y saethau yn y gornel dde isaf i chwyddo sgrin y fideo.
Amcanion:
Prif amcan Kuchen! yw cyflwyno’r ffordd y mae’r Almaeneg yn gwahaniaethu rhwng y goddrych, y gwrthrych uniongyrchol a’r gwrthrych anuniongyrchol, h.y. gwahaniaethu rhwng pwy sy’n gwneud beth i bwy. Felly mae diwedd geiriau’n bwysig yma – sylwch ar y seiniau ‘en’ ac ‘er’ yn ‘einen’ and ‘meiner’.
Mae’r gân hefyd yn cynnig cyfle i ddangos sut mae’r Almaeneg yn ‘creu’ geiriau drwy gyfuno geiriau. Mae plant yn mwynhau rhyfeddu at eiriau hir iawn iawn!
Yn olaf, mae’r gân yn dangos sut y gallwn raffu ansoddeiriau wrth ei gilydd mewn Almaeneg.
Beth sydd angen i chi ei wneud:
Dechreuwch drwy wrando ar y gân. Yna edrychwch ar eiriau’r gân ym mhob iaith yn ei thro cyn gwrando ar y gân eto. Yna, cymal wrth gymal, gwrandewch ar sut i ynganu’r geiriau. Yna rhowch gynnig ar gyd-ganu gyda’r gerddoriaeth!
Gallwch ddewis sut yr ydych am weithio gyda’r gân; efallai y bydd yn well gennych rannu’r dosbarth i wahanol grwpiau gyda phob grŵp yn cymryd ei dro i ganu mewn iaith wahanol.
Geiriau
Ich möchte einen Kuchen backen
Ich möchte einen Kuchen backen
Käsekuchen
Zuckerkuchen
Butterkuchen
Lebkuchen
Schwarzwälder Kirschtorte
Bienenstich-stich-stich-stich!
Ich möchte meiner Freundin einen Kuchen backen
Ich möchte meiner Freundin einen Kuchen backen
Käsekuchen
Zuckerkuchen
Butterkuchen
Lebkuchen
Schwarzwälder Kirschtorte
Bienenstich-stich-stich-stich!
Gugelhupf-hupf-hupf
Gugelhupf-hupf-hupf
Gugelhupf-hupf-hupf
Gugelhupf-hupf-hupf
Gugelhupf-hupf-hupf
Gugelhupf-hupf-hupf hupf!
Ich möchte meiner besten Freundin einen riesengroßen Kuchen backen
Ich möchte meiner besten Freundin einen riesengroßen Kuchen backen
Käsekuchen
Zuckerkuchen
Butterkuchen
Lebkuchen
Schwarzwälder Kirschtorte
Bienenstich-stich-stich-stich!
Gugelhupf-hupf-hupf
Gugelhupf-hupf-hupf
Gugelhupf-hupf-hupf hupf hupf hupf
Lecker, lecker, lecker, lecker
Lecker, lecker, lecker, lecker
Lecker, lecker, lecker, lecker lecker!
Ich möchte meiner lieben, besten, kleinen Freundin einen riesengroßen, wunderbaren, lecker- schmeckenden Kuchen backen
Ich möchte meiner lieben, besten, kleinen Freundin einen riesengroßen, wunderbaren, lecker- schmeckenden Kuchen backen
iym iym iym!
Fe hoffwn bobi teisen, tesen fawr i’m ffrind
Cyn ei bwyta hi bob tamaid nes bo’r cyfan wedi mynd
I’d like to bake a cake, bake it for my friend
And eat up every morsel til the plate says
That’s the End!