NOD: Annog dysgwyr i gynyddu geirfa
Bydd disgyblion yn derbyn cerdyn gyda chynhwysyn sydd ganddyn nhw, a dau/dri arall sydd eu hangen arnyn nhw. Bydd y disgyblion wedyn yn mynd ar daith i ddod o hyd i’w tîm (rysait). Gallan nhw ddefnyddio’r strwythurau canlynol mewn Almaeneg neu Gymraeg i gyfathrebu:
Ich habe…. Mae gen i… I have….
Ich brauche….. Mae angen… arna’ i I need ….
Hast du… Oes gen ti… Do you have…
Unwaith y bydd eu tîm (rysait) yn gyflawn, gallan nhw ddechrau dyfalu beth fydd y pryd bwyd.
Beth sydd angen ei wneud:
Dewch yn gyfarwydd â geirfa yn ynwneud â bwyd/cynhwysion sylfaenol. Gallwch hefyd ddefnyddio’r adran eirfa ffrwythau a llysiau.
Ychwanegiad:
Gall disgyblion greu rhestr gynhwysion o’u hoff bryd bwyd. Bydd angen i’w cyfoedion ddyfalu beth yw eu hoff bryd bwyd.