Traeth

Beach scene with gulls

AMCAN: Agor drws ar thema - lle mae dysgwyr yn clywed geiriau sy’n berthnasol i’r thema am y tro cyntaf, ac ymateb i’r geiriau hynny.

Gellir cynnal y gweithgaredd yma yn yr ystafell ddosbarth neu neuadd.

Esboniwch wrth y dysgwyr eu bod yn mynd i fod yn gerddorfa – eu lleisiau a’u cyrff fydd offerynnau’r gerddorfa. Gyda’i gilydd maen nhw’n mynd i greu seinwedd (soundscape) o wahanol synnau’r traeth.

Yr athrawes / athro yw arweinydd y gerddorfa.

Yn union fel cerddorfa go iawn, bydd gan y gerddorfa yma wahanol adrannau. Yn lle adran offerynnau pres, chwythbrennau ac offerynnau taro, bydd gan y gerddorfa arbennig yma adrannau ‘y môr’, ‘y gwynt’, ‘y traeth’ a’r ‘caffi’.

 

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Rhannwch y grŵp yn bedair adran. Gwnewch yn siwr fod mwy o ddisgyblion yn adrannau’r ‘môr’ a’r ‘gwynt’.

Anogwch y dysgwyr, yn eu gwahanol adrannau, i wneud gwahanol synnau gan ddefnyddio eu lleisiau a’u dwylo a’u traed fel offer taro.

Defnyddiwch eich braich i arwain. Codwch eich braich pan rydych eisiau i’r gerddorfa gynyddu’r sŵn. Gostyngwch eich braich i dawelu’r sŵn. Pan fyddwch yn codi eich llaw i fyny, rhaid i’r gerddorfa stopio.

Ymestyn:

Gallwch ddefnyddio’r adran eirfa i ychwanegu gwahanol elfennau.

Gall y disgyblion sy’n rhan o adran y ‘Traeth’ yn y gerddorfa ychwanegu’r gair am ‘tywod’ i’w seinwedd, a gall y disgyblion yn adran y ‘Caffi’ ychwanegu’r geiriau am ‘pizza’ neu ‘hufen iâ’.