Pen Ysgwyddau Coesau Traed

Schoolchildren singing heads, shoulders, knees and toes

Pen, ysgwyddau, coesau a traed, coesau a traed

Pen, ysgwyddau, coesau a traed, coesau a traed

A llygaid a clustiau a trwyn a cheg

Pen, ysgwyddau, coesau a traed, coesau a traed!

Heads, shoulders, knees and toes, knees and toes

Heads, shoulders, knees and toes, knees and toes

And eyes and ears and mouth and nose

Heads, shoulders, knees and toes, knees and toes!

Cabeza, hombros, rodillas y dedos, rodillas y dedos

Cabeza, hombros, rodillas y dedos, rodillas y dedos

Y ojos y orejas y boca y nariz

Cabeza, hombros, rodillas y dedos, rodillas y dedos!

AMCAN: Cael hwyl a chynesu’r corff a’r llais wrth ddysgu geirfa newydd – rhannau’r corff yn Saesneg a Sbaeneg. Dilyn patrwm sain/geiriau mewn caneuon a rhigymau a datblygu sgiliau iaith trwy gyfrwng caneuon a rhigymau.

Bydd angen i’r dysgwyr sefyll ar gyfer hyn, gyda digon o le o’u cwmpas. Dysgwch eiriau’r gân ‘Pen, Ysgwyddau, Coesau, Traed’ iddyn nhw.

Nawr ailadroddwch y gân gan gyfnewid enw un rhan o’r corff ar y tro am yr enw Saesneg. Daliwch i ganu a newid yr enwau nes eich bod wedi cyflwyno’r enw Saesneg am bob un o’r rhannau o’r corff.

Ymestyn

Canwch y gân i gyd yn Saesneg, ac yna dechreuwch gyfnewid un gair ar y tro eto i Sbaeneg nes eich bod wedi cyflwyno’r enw Sbaeneg am bob un o rannau’r corff.

Esboniwch fod y gân Gymraeg yn defnyddio’r gair ‘coesau’ yn lle ‘knees’ / ‘las rodillas’! Gofynnwch i’r dysgwyr geisio meddwl am resymau pam efallai nad yw geiriau caneuon yn cael eu cyfieithu’n llythrenol, gair am air, bob tro.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Geiriau