Coedwig Carreg Afon

AMCAN: Cyflwyno a defnyddio geirfa o fyd natur. Annog dysgwyr i archwilio’r gweithgaredd gyda’u cyfoedion gan ddefnyddio elfennau o siarad patrymog a rhydd a gwrando.

Mae’r gweithgaredd yma’n cyflwyno fersiwn corfforol o’r gêm glasurol, ‘Carreg/Papur/Siswrn’.

Gellir ei chwarae fel y gêm wreiddiol, gyda’r dwylo’n unig a gyda’r disgyblion mewn parau yn yr ystafell ddosbarth, os nad oes mwy o le ar gael.

Beth sydd angen i chi ei wneud:

Rhannwch y dysgwyr yn ddau grŵp cyfartal a gofynnwch iddyn nhw sefyll mewn dwy rês yn wynebu ei gilydd - yn naill ben y neuadd a’r llall. Nawr, dysgwch dri gair iddyn nhw a symudiad i gyd-fynd â phob gair.

ee

Coedwig / Bosque / Forest (pawb yn ymestyn mor uchel ag y gallant i fod yn goed)

Afon / Rio / River (pawb yn meimio dŵr yn llifo)

Carreg / Roca / Stone (pawb yn eu cwrcwd, mor fach â phosib)

Esboniwch wrth y dysgwyr fod rhai symudiadau’n curo rhai eraill (fel yn y gêm, carreg/papur/siswrn). Er enghraifft: Mae ‘Coedwig’ yn tyfu dros y ‘Cerrig’, mae ‘Carreg’ yn rhwystro’r ‘Afon’, ac mae’r ‘Afon’ yn boddi’r ‘Goedwig’.

Nawr, yn eu grwpiau rhaid iddyn nhw ddewis bod yn un o’r elfennau yma. Maen nhw’n cymryd 5 cam ymlaen, ac yna, pan rydych chi’n dweud Ewch / Ya / Go …rhaid i bob grŵp ddweud enw’r elfen maen nhw wedi ei dewis a meimio’r symudiad ar gyfer y gair.

Ymestyn:

Pan mae’n amlwg fod un grŵp wedi ennill, rhaid iddynt redeg ar ôl y lleill a cheisio eu tagio. Rhaid i unrhyw ddysgwr sy’n cael ei ‘ddal’ ddychwelyd gyda’r grŵp buddugol i’w rhan nhw o’r neuadd.

Os yw’r ddau grŵp yn dewis yr un elfen, rhaid iddyn nhw fynd yn ôl i’w pen nhw o’r neuadd gan rwgnach a chwyno a defnyddio ymadroddion fel:

‘Ddim yn deg / No es justo / That’s not fair’

‘Dw i’n drist / Estoy triste / I’m sad’

Gall y gêm barhau nes bod pawb wedi cael eu ‘dal’ a dim ond un grŵp sydd ar ôl.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn