Bwced a Rhaw

Red bucket and spade
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio
Dangos Cuddio

AMCAN: Dysgu a meithrin iaith drwy ddefnyddio rhythm.

Dysgwch y rhythm 4-curiad canlynol i’r dysgwyr:

Clic-Clic-Clap-Clap

Neu

Clap-Clap-Stamp-Stamp

Sefydlwch y rhythm, ac yna ychwanegwch y geiriau yma:

Athrawes/Athro: Pwy gollodd y bwced o’r bwced a rhaw? 

Athrawes/Athro: (Enw Dysgwr 1) gollodd y bwced o’r bwced a rhaw

Dysgwr 1: Pwy, fi? 

Ath: Ie, ti (chi)

Dysgwr 1: Nid fi

Ath: Yna, Pwy?

D1: (Enw Dysgwr 2) gollodd y bwced o’r bwced a rhaw.

D2: Pwy, fi?

D1: Ie, ti (chi)

D2: Nid fi

D1: Yna, Pwy?

D2: (Enw Dysgwr 3) gollodd y bwced o’r bwced a rhaw.

Ac felly ymlaen..

Dechreuwch gyda geiriau hawdd:

Bwced a Rhaw / Balde y Pala / Bucket and Spade

Ymestyn:

Gallwch gynyddu ac ymestyn yr eirfa drwy ddefnyddio’r adran ‘Geirfa Bwced a Rhaw’ isod.

Gweithgaredd Bwrdd Gwyn